Am Y Barri

Y Barri ydy’r dref fwyaf yng Nghymru i fod â’i chyngor tref ei hun. Mae gan Gyngor Tref y Barri draddodiad hir a balch o gynnal llywodraeth leol mewn tref a oedd yn wreiddiol yn dair cymuned ar wahân – Y Barri, Tregatwg a Merthyr Dyfan. Yn 2007, amcangyfrifwyd bod mwy na 50,000 yn byw yn y dref am y tro cyntaf erioed. Roedd 39,000 yn byw yma mor bell yn ôl â 1921.

Y Barri ydy’r dref fwyaf o bell ffordd ym mro hardd Morgannwg. Mae ei phoblogaeth yn fwy na’r trefi eraill yn y Fro – Penarth, y Bont-faen a Llanilltyd Fawr gyda’i gilydd. Mae 40% o boblogaeth Bro Morgannwg (120,000) yn byw yn y Barri.

Mae’r Barri yn llai na 10 milltir i’r gorllewin o ganol Caerdydd ac mae modd teithio i’r Brifddinas yn hawdd mewn car, ar fws neu ar drên. I bobl sy’n teithio i’r Barri mewn car o’r M4, y cyffordd gorau i’w gymryd ydy Cyffordd 33 – sydd yn llai na 10 milltir i’r gogledd o ganol y dref. Mae pedair gorsaf ar gyfer teithwyr trên yn y dref: Tregatwg, Dociau’r Barri, Y Barri ac Ynys y Barri.

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn llai na phum milltir o ganol tref y Barri yng nghymuned y Rhws. Mae hyn yn hwyluso teithio i a theithio o leoliadau pell.

Ar arfordir poblogaidd Morgannwg mae’r Barri yn sefyll. Mae Ynys y Barri a’r arfordir rhwng yr Ynys a Phorthceri yn adnabyddus am y traethau ysblennydd a’r clogwyni hardd. Ond nid y traethau tywodlyd hyn sy’n wynebu’r de yw’r unig gyfleusterau hamdden yn y dref. Mae yn y Barri barcau a meysydd agored hyfryd yn ogystal â chyfleusterau chwaraeon, hamdden ac adloniant. Mae sinema yma a’r Neuadd Goffa a Theatr. Mae’r rhain ar Ffordd Gladstone rhwng Broad Street a chylchdroen Ffordd Buttrills.

Lle da ydy’r Barri i bobl sy’n dod ar wyliau. Lle delfrydol ydyw i’r bobl sy’n byw yma. Mae digonedd o ysgolion da a dwy brif ganolfan siopa – Ffordd Holton a Broad Street/Y Stryd Fawr. Mae stoc tai mawr ac amrywiol sy’n cynnwys dros 22,000 o drigfannau. Mae diwydiant yn bwysig yn y Barri ac mae cyflogwyr newydd pwysig yn darparu swyddi sydd yn disodli’r nifer fawr o hen swyddi a gollwyd gyda thranc y diwydiannau hŷn fel glo a haearn. Mae’r Gymraeg yn mynd trwy gyfnod o adfywiad yn y dref ac mae 11% o’r boblogaeth erbyn hyn yn gallu siarad yr iaith.

Gyda’i lleoliad gwych ar gyrion ardal gwledig hardd sy’n gartref i lawer o’r safleoedd hanesyddol mwyaf diddorol yn ne Cymru, mae gan y Barri lawer i’w gynnig.






Impossible to get Weather Forecast
Service Unvailable;
Grants available from Barry Town COuncil for local organisations in 2012

             
© copyright Barry Town Council. 2009 e-commerce websites by Silicon Edge