Cyfleusterau i'r Ifainc

Mae nifer o grwpiau yn y Barri sy’n darparu ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau a phobl ifanc sy’n agosáu at eu harddegau. Un o’r gwasanaethau mwyaf arwyddocaol ydy Area 41 sy’n darparu cyfleusterau cyfryngol ar gyfer yr ifainc yn 41 Ffordd Holton. Bob tymor mae Vibe, cymdeithas aml-gyfrwng ar gyfer ieuenctid yr ardal sy’n gweithredu o Area 41, yn trefnu sawl disgo yn y Neuadd Goffa a Theatr gerllaw.
Mae’r cymdeithasau lifreiog yn cael eu cynrychioli’n dda yn y Barri. Yn eu plith mae’r Sgowtiaid, y Geidiau a’r Hyfforddlu Awyr, sydd oll â phencadlys yn y dref. Mae gan lawer o’r clybiau a’r cymdeithasau chwaraeon lleol adrannau ar gyfer pobl ifanc – ac mae modd mwynhau criced, pêl-droed, dysgu rhyfel-sgiliau, rygbi a nofio. Mae drama amatur yn boblogaidd iawn yn y Barri ac mae ‘Billboard’ a Chanolfan Celfyddydau y Barri yn denu ieuenctid y dref i ymuno a chymryd rhan. Nid dyma’r unig grwpiau gwirfoddol i groesawu pobl ifanc. Mae’r rhan fwyaf o’r grwpiau chwaraeon, grwpiau artistig a grwpiau diwylliannol yn darparu ar gyfer ac yn croesawu pobl ifanc.
Am fwy o wybodaeth am y grwpiau uchod, ewch i adran ‘Clybiau a Chymdeithasau’ y wefan hon. Cewch hefyd gysylltu â Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol y Fro - www.vcvs.org.uk