Digwyddiadau Lleol

Gwanwyn, haf, hydref a gaeaf - mae bob amser rywbeth yn digwydd yn y Barri. Dyma’r prif ddigwyddiadau rheolaidd.

Ym mis Chwefror (fel arfer y pythefnos olaf) mae Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg a Chyngor Tref y Barri ill dau yn cymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n hyrwyddo Masnach Teg (Fairtrade) yn y Barri a’r Fro. Mae’r gweithgarwch yn rhan o’r ymgyrch i godi Cymru yn wlad masnach teg gyntaf y byd.

Ym mis Ebrill, fel arfer tua’r Pasg, mae Parc Adloniant a Ffair Ynys y Barri yn agor ei ddrysau i’r bobl leol ac i dwristiaid o bell.

Ym mis Mai (fel arfer yr ail ddydd Llun yn y mis) mae Cyngor Tref y Barri yn cynnal ei seremoni flynyddol i sefydlu’r Maer. Estynnir croeso i bawb fynychu’r achylysur hwn sydd â thraddodiad hir. Cynhelir y seremoni yn y theatr fawr sy’n rhan o’r Neuadd Goffa y drws nesaf i swyddfeydd Cyngor y Dref ar Ffordd Gladstone.

Yn ystod ail wythnos mis Mehefin mae Cyngor Bro Morgannwg yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau yng nghanol y datblygiadau ar y Glannau gan gynnwys ystod o weithgareddau cyffrous a ffair.

Ym mis Gorffennaf mae’r Sgowtiaid a’r Geidiau yn cynnal eu gŵyl flynyddol ym Mharc Romilly.

Yn ystod trydedd wythnos Awst, allan yn y Fro, cynhelir Sioe Bro Morgannwg ar dir sy’n gysylltiedig â Chastell Ffwnmwn ger y Bontfaen. Ceir yr holl elfennau y byddai rhywun yn eu cysylltu’n naturiol â sioe amaethyddol. Yn fuan wedyn ceir Gŵyl Bro Morgannwg, cyfres o ddigwyddiadau artistig a diwylliannol mewn canolfannau o gwmpas y Fro. Cynhelir perfformiadau cerddorol ac arddangosfeydd o waith artistiaid – llawer ohonynt yn y Barri.

Yn gynnar ym mis Medi cynhelir Gŵyl y Llongau Hwyliau Mawr o gwmpas y Glannau.

Ar Dachwedd y pumed bob blwyddyn (hyd yn oed os ydy’n digwydd ar ganol wythnos) dethlir Noson Guto Ffowc â choelcerth a thân gwyllt ysblennydd ar Bentir y Brodyr (Friars Point) ar Ynys y Barri. Gwirfoddolwyr o Glwb Rotari y Barri sy’n trefnu ac yn rheoli’r noson. Hefyd ym mis Tachwedd ceir cyfle i fwynhau’r gystadleuaeth flynyddol i gerddorion a chantorion. Cynhelir y gystadleuaeth hon sy’n ugain mlwydd oed erbyn hyn yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Ffordd Colcot. . Digwyddiad sydd yn tyfu’n fwy ac yn fwy poblogaidd bob Tachwedd ydy Sul y Cofio. Mae pobl yn ymgasglu o gwmpas y Gofeb, a adnewyddwyd yn ddiweddar, o flaen y Neuadd Goffa.

Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal Gŵyl Gwrw yn y Barri am y tro cyntaf er 1973. Y flwyddyn honno, cynhaliwyd yr ŵyl yn y ‘Windsor Hotel and Public House’ i ddathlu sefydlu’r Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn (CAMRA) yn y DU.

Ar ddechrau Rhagfyr (neu weithiau ychydig yn gynharach) mae’r cymdeithasau masnach lleol yn Ffordd Holton a Broad Street/Y Stryd Fawr yn cynnal seremonïau cynnau goleuadau lliwgar. Mae’r rhain yn ffefrynnau â thrigolion lleol ac ymwelwyr sy’n manteisio’n llawn ar y ffaith bod llawer o’r siopau ar agor yn hwyr.






HEAVY RAIN SHOWER
Max: 17°C Min: 13°C

             
© copyright Barry Town Council. 2009 e-commerce websites by Silicon Edge