Ein Cyngor

Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol 1 Ebrill 1996, diddymwyd y drefn lle roedd y cynghorau dosbarth a'r cynghorau sir ar wahân. Gwasanaethir Cymru erbyn hyn gan ddwy haenen o lywodraeth leol - awdurdodau unedol a chynghorau cymunedol/cynghorau tref.
Cyngor Sir Bro Morgannwg ydy'r awdurdod unedol sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir ar lefel llywodraeth leol yn y Barri. Mae'r rhain yn cynnwys addysg, hamdden, datblygu economaidd, y priffyrdd, casglu sbwriel, budd-daliadau tai, llyfrgelloedd, trwyddedu, parcau a thiroedd agored, cynllunio, cartrefu cyhoeddus, ailgylchu, y gwasanaethau cymdeithasol, goleuadau stryd, cadw'r strydoedd yn lân, rheoli canol y dref a gwasanaethau i bobl ifanc.
Mae gan bob ardal ym Mro Morgannwg (ar wahân i'r Rhws) gyngor cymuned ac mae rhai â statws Cyngor Tref. Dyma'r haenen o lywodraeth leol sydd ond yn gwasanaethu'r gymuned leol. Mae gan Gyngor Tref y Barri hawliau penodol (er enghraifft ym maes cynllunio) ac mae'n ymgynghori ar ran ac yn cynrychioli pobl y Barri mewn perthynas ag amrywiaeth eang o faterion. Ymgynghorir â'r cyngor wrth wneud ceisiadau cynllunio, enwi strydoedd, trefnu gwyriadau ffordd ac wrth drwyddedu. Mae gan y Cyngor bwerau i erlyn ac i amddiffyn achosion llys yn enw trigolion lleol ac i gymryd rhan mewn ymchwiliadau cyhoeddus.
Eiddo Cyngor y Dref, fel awdurdod claddu'r ardal, ydy Mynwent Merthyr Dyfan a'r Cyngor sydd yn ei rheoli a'i chynnal. Mae hon yn un o'r mynwentydd mwyaf yng Nghymru ac mae wedi cael ei hestyn sawl gwaith. Mae bellach yn ymestyn dros 55 erw. Mae cynlluniau ar y gweill i estyn y fynwent eto ar dir sydd eisoes yn eiddo i Gyngor y Dref er mwyn darparu tir claddu ar gyfer y chwarter canrif nesaf. Agorwyd y fynwent yn y 1880au a rheolir y safle gan fforman mynwent a chwech o glochyddion/garddwyr. Mae modd i aelodau'r cyhoedd ymweld yn ystod y dydd saith niwrnod yr wythnos. Un o nodweddion gorau'r fynwent ydy'r capel a godwyd yn y 1890au ond sydd newydd ei adnewyddu. Ymgymerwyd â gwaith gwerth £100,000 y llynedd trwy gymorth benthyciad a drefnwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Bwrdd Benthyciadau ar gyfer Gwaith Lleol.
Mae Cyngor y Dref yn gyfrifol am ddwy fynwent arall - Mynwent Porthceri yn y Rhws a Mynwent Gaeedig Philadelphia yn Paddock Place, y Barri. Etifeddwyd Mynwent Philadelphia gan Gyngor Bwrdeistref y Barri yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974. Cedwir allweddi'r fynwent yn swyddfeydd Cyngor y Dref. Mae modd i aelodau'r cyhoedd ymweld ond mae'n rhaid gwneud trefniant ymlaen llaw.
Mae'r Cyngor hefyd yn gyfrifol am reoli Neuadd Pioneer, Ffordd Beryl ac mae'n darparu 90% o'r staff sy'n gyfrifol am redeg y Neuadd Goffa a Theatr o ddydd i ddydd.
Mae'r Neuadd Goffa a Theatr yn un o'r nifer sylweddol o adeiladau coffa a godwyd gan gymunedau yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1918. Neuadd Goffa y Barri ydy'r fwyaf o'r adeiladau hyn yng Nghymru. Mae'n cael ei rheoli gan ymddiriedolaeth elusennol sy'n cynnwys pum cynrychiolydd o Gyngor y Dref, pum cynrychiolydd o'r gymuned leol a dau gynrychiolydd cyfetholedig.
Mae Cyngor y Dref yn penodi cynrychiolwyr i wasanaethu ar fyrddau llywodraethol ysgolion ac ar nifer o bwyllgorau sy'n gyfrifol am gymdeithasau lleol a chyrff ad hoc fel Partneriaeth Datblygu y Barri, Balchder yn y Barri, Cyngor Ieuenctid y Barri a Phartneriaeth Diogelu Cymunedau'r Fro. Mae'r cyngor hefyd yn ymddiddori yng ngwaith pob cymdeithas wirfoddol a chymdeithas nad yw'n rhannu elw sy'n gwasanaethu'r gymuned a bob blwyddyn, rhoddir grantiau i hyd at 30 ohonynt. Mae Cyngor y Dref yn gweithio i sicrhau bod y Barri yn datblygu ac yn llwyddo fel tref a bu'n rhan o'r cynllun i sefydlu Partneriaeth Datblygu y Barri. .
Bu Cyngor y Dref yn gefn i'r ymgyrch i sefydlu cylchoedd chwarae Cymraeg yn y dref . Bu hefyd yn weithgar yn cefnogi nifer o ymgyrchoedd eraill mewn cydweithrediad â'r cyn Aelod Seneddol Syr Raymond Gower a'r Aelod Seneddol presennol, Mr John Smith. Un o'r ymgyrchoedd hyn oedd yr ymgyrch i gadw swyddi yn y dref. Mae'r cyngor yn dal i ymgyrchu. Yn ddiweddar, mae wedi ymgyrchu dros gadw Uned Ddamweiniau yn Ysbyty'r Barri. Ar ôl sefydlu Cyngor Ieuenctid y Barri, sicrhaodd nawdd i wobrwyo perfformiadau academaidd gwych a pherfformiadau gwych ym maes chwaraeon. Chwaraeodd ran bwysig hefyd wrth sefydlu Cronfa Goffa Grace Williams ar gyfer cerddor mwyaf addawol y flwyddyn.
Mae Cyngor y Dref yn rhoi grantiau sylweddol i brosiectau lleol gwethfawr. Mae wedi ariannu prosiect placiau coffa i gofio am bobl leol nodedig.
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am drefnu nifer o achlysuron dinesig yn y Barri - Seremoni Rhyddid Mynediad yr RAF yn Sain Tathan, Gorymdeithiau Sul y Cofio a'r gwasanaeth carolau golau cannwyll blynyddol.