Hamdden a Chwaraeon

Mae gan y Barri ystod eang o gyfleusterau hamdden ar gyfer pobl leol a'r miloedd o ymwelwyr sy'n dod yma bob blwyddyn. Mae popeth o draethau tywod hardd i gyfleusterau hamdden a lleoedd i siopa, bwyta ac yfed felly mae rhywbeth i bawb.

Mae dwy ganolfan hamdden yn y Barri a nifer o gyfleusterau chwaraeon eraill. Agorwyd Canolfan Hamdden y Barri yng nghanol y dref gan y Dywysgoges Anne ym 1981 ac mae'n cynnig ystod eang o weithgareddau. Ymhlith y cyfleusterau mae pwll nofio 25 metr, pwll bach i'r plant ac i bobl sy'n dysgu nofio, sleid dwˆr, cyrtiau sboncen, ystod o ddosbarthiadau ffitrwydd a neuadd chwaraeon enfawr a ddefnyddir ar gyfer badminton, pêl-fasged, criced, pêl-droed, hoci, tenis a phêl foli.

Mae Canolfan Chwaraeon y Barri ar Ffordd Colcot yn darparu chwaraeon awyr-agored. Mae maes pob-tywydd ar gyfer criced, hoci, pêl-droed, lacros, pêl-rwyd a rygbi. Mae hefyd neuadd ar gyfer gweithgareddau hamdden a chymdeithasol, campfa 'Hammer' gydag ystafell datblygu'r corff a pheiriant aml-ymarfer 'rotogym' .

Mae Canolfan Hamdden Holm View ar Ffordd Skomer yn ganolfan aml-bwrpas gyda chyfleusterau ar gyfer badminton, pêl-droed 5-bob-ochr, pêl-fasged, pêl-rwyd a sboncen. Mae'r cyrtiau sboncen wedi cael eu hadnewyddu yn ddiweddar.

Mae'r ganolfan newydd yn Ysgol Gynradd Tregatwg hefyd ar agor i'r gymuned ac mae'n cynnig ystod o gyfleon hamdden dan do (sych).

Ceir digon o gyfleusterau ar gyfer athletwyr trac a maes. Cyngor Bro Morgannwg sy biau Parc Jenner, cartref Clwb Pêl-droed Tre'r Barri a Chlwb Pêl-droed y Barri. Mae yno drac rhedeg pob-tywydd gwych, cyfleusterau ar gyfer y naid uchel, y naid hir a'r naid tri-cham a pharthau arbennig ac adnoddau ar gyfer cystadlaethau taflu.

Tref ar lan y môr ydy'r Barri ac fel y byddai rhywun yn disgwyl, mae nofio yn boblogaidd yn y pyllau dan-do yn y ganolfan hamdden yng nghanol y dref ac yn y môr o gwmpas yr amrywiaeth o draethau tywod a cherrig mân.

Mae modd mwynhau pysgota môr ar hyd yr arfordir o gwmpas y Barri. Mae hwylio hefyd yn boblogaidd. Mae pencadlys Clwb Hwylio'r Barri yn Harbwr y Barri a chynigir cystadlaethau rasio ar gyfer y dosbarthiadau gwahanol.

Mae parcau a thiroedd agored wedi bod yn nodweddion hyfryd yn y Barri erioed. Heb fod yn bell o ganolfan siopa Ffordd Holton mae Gerddi Gladstone a Pharc Canol y Dref - sydd newydd ei adnewyddu. Mae bellach yn cynnwys parth chwarae newydd sbon ag adnoddau gwych a darpariaeth ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau. Hefyd yn y dref ceir Parc Romilly (gorllewin y Barri), Parc Victoria (Tregatwg), a Gerddi Alexandra a Phencoedtre. Mae cyfleusterau hamdden ym mhob un - gan gynnwys parthau chwarae ag offer addas. Mae Parc Romilly yn ymestyn dros 15 erw a cheir arddangosfeydd ysblennydd o flodau lliwgar. Y parc hwn yn aml ydy'r lleoliad ar gyfer digwyddiadau chwaraeon a garddwriaethol.

Y parc gorau, i lawer, ydy Parc Gwledig Porthceri ar lan y môr ar ffin orllewinol y Barri. Mae'n un o'r tiroedd cyhoeddus agored mwyaf ym Mro Morgannwg. Mae'r parc hyfryd hwn yn enwog am ei fachludoedd hyfryd ac am bont ysblennydd a rhwysgfawr y rheilffordd sy'n camu o fryncyn i fryncyn. Mae nifer o lwybrau natur diddorol hefyd ac mae cwrs golff 'pitch and put' 18 twll a agorwyd gan Dai Rees ym 1972.

Os am gwrs golff 18 twll safonol beth am Glwb Golff Brynhill oddi ar Port Road East? Ar Port Road East hefyd, yn nes at Wenfo, mae'r 'South Wales Golf Range' - lle delfrydol i ymarfer techneg ac i dderbyn hyfforddiant o safon uchel. Y tu allan i'r Barri yn San Andreas, mae clwb golff St Andrews Major sy'n cynnig cwrs 9 twll gyda phar o 35.

Mae traethau'r Barri sy'n wynebu'r de - ac felly yn aml yn heulog iawn - ymhlith asedau mwyaf ysblennydd y Barri. Bae Whitmore, Ynys y Barri - traeth hir o dywod mân wedi'i gylchynu â chloddiau gwyrdd - ydy'r mwyaf poblogaidd ohonynt. Heb fod yn bell o'r traeth mae ffair fywiog ac mae digon o hwyl i'w gael ar y rhodfa (promenade) ac yn y trap a dynnir gan ferlod ar y traeth ei hun. Yn yr haf mae Cwmni Treftadaeth Ynys y Barri yn rhedeg trenau rhwng yr Ynys a'r Glannau. Os am le tawelach ar gyfer nofio, beth am Fae Jackson? Os ewch i'r gorllewin eto mae traeth hir caregog lle mae digon o le i barcio. I'r gorllewin eto, heibio i Glogwyn y Ledi Wen (Bullnose), ac rydych yn ôl ar draeth Porthceri.

Mae adnoddau da ar gyfer chwarae tenis a bowlio yn y dref. Ceir cyrtiau tenis ym Mharcau Romilly a Victoria ac yng Ngerddi Gladstone ac Alexandra. Mae lawntydd bowlio ym Mharcau Romilly a Victoria, yn Broad Close ac yng Ngerddi Gladstone ac mae sawl clwb bowlio ar gyfer dynion a gwragedd. Mae lawnt dan-do newydd ei agor ym mhentref cyfagos Sili.

I gricedwyr mae Parc Pencoedtre a'r Clwb Athletau ar Ynys y Barri. Mae clybiau a meysydd pêl-droed yn y Barri ac y tu allan i'r dref. Ar Gae'r Gronfa, Merthyr Dyfan, mae Clwb Rygbi y Barri yn chwarae ei gêmau. Mae Clwb Pêl-droed Tre'r Barri yn chwarae ar Barc Jenner sydd newydd ei adnewyddu yn unol â safonau pêl-droed Ewrop. Mae gan y clwb dîm llwyddiannus yng Nghyngrair Cymru.

O chwaraeon i adloniant a phrif ased y Barri ydy'r Neuadd Goffa a Theatr ar Ffordd Gladstone. Mae'n gartref dros dro prysur ar gyfer cynadleddau, cyngherddau, perfformiadau sawl cymdeithas drama amatur a digwyddiadau eraill. Un o'r nodweddion gorau ydy'r Organ Theatr Christie - un o'r offerynnau mwyaf hyblyg a gynhyrchwyd erioed. Mae'r organ dros 50 oed a daeth i'r Barri ym 1986 o Sinema'r Regal yn Edmonton, gogledd Llundain. Gyda phedair allweddell, credir mai hwn ydy'r organ theatr mwyaf ond un sy'n dal i gael ei ddefnyddio. Cyngor y Dref a Changen Prydain o Gymdeithas Organau Theatr America oedd yn gyfrifol am y symud. Os am fwcio, ffoniwch 01446 400111.

Mae hefyd yn werth i ni sôn am Neuadd y Dref a'r Llyfgell sydd wedi'u hadnewyddu yn ddiweddar ac yn cynnig cyfleusterau o ansawdd uchel ar gyfer arddangosfeydd.






HEAVY RAIN SHOWER
Max: 17°C Min: 13°C

             
© copyright Barry Town Council. 2009 e-commerce websites by Silicon Edge