Hanes Byr

Mae gwreiddiau modern y Barri yn gadarn ym mhridd y dociau a adeiladwyd ym 1884. Roedd pobl yn byw yn yr ardal, fodd bynnag, ymhell cyn cyfnod y diwydiant glo. Mae carneddau o’r Oes Efydd wedi’u darganfod yn y Cnap (Cold Knap) a Phentir y Brodyr (Friars Point). Gwyddys i’r Rhufeiniaid ymddiddori yn yr ardal gan godi warws cyflenwi ar gyfer eu llynges ym Môr Hafren. Mae’r olion i’w gweld o hyd.
Yn ôl rhai, ar ôl Baruc Sant a foddwyd ym Môr Hafren ac a gladdwyd ar Ynys y Barri yn y chweched ganrif y cafodd pentref y Barri ac wedyn y dref eu henwi. Mae adfeilion y capel a gysegrwyd iddo i’w gweld ar Ffordd y Brodyr (Friars Road). Mae tarddiad posib arall i’r enw. Mae rhai, gan gynnwys y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones yn tynnu sylw at yr hen air Cymraeg ‘bar’ sydd yn golygu ‘bryn’ ac yn awgrymu mai ‘bryniau’ ydy ystyr y ‘Barri’. Mae tarddiad yr enw ‘Tregatwg’ yn fwy sicr. Tyfodd y pentref gwreiddiol o gwmpas eglwys ganoloesol Catwg Sant. Mae’r eglwys yn sefyll o hyd – ynghyd â rhai o dai’r pentref a oedd yn bodoli cyn adeiladu’r dociau.
Mae’r hyn rydym yn ei wybod am yr ardal ar ôl y chweched ganrif yn awgrymu hanes cythryblus. Roedd Ynys y Barri ym 1087 yn ganolfan i Lychlynwyr a oedd yn gwneud cyrchoedd cyson i’r tir mawr. Daeth y Normaniaid wedyn i rannu tiroedd Morgannwg. Daeth hen ardal pentref y Barri yn is-faenor i Ben-marc ac erbyn y drydedd ganrif ar ddeg roedd porthladd, eglwys, melin ddŵr a chastell yno. Mae olion y castell i’w gweld ar ben ar y bryn uwchlaw Parc Romilly.
Cafodd y Pla Du yn y bedwaredd ganrif ar ddeg effaith ofnadwy ar y Barri. Roedd yn rhaid aros tair canrif i bentref y Barri fagu digon o boblogaeth i fod yn effeithiol eto. Ailagorodd y porthladd gyda’r llongau lleol yn hwylio mor bell â Ffrainc.
Daeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r diwydiannau glo a haearn â newidiadau enfawr i dde Cymru. Roedd y newidiadau mwyaf ar y dechrau, fodd bynnag, yn y cymoedd i’r gogledd o Fro Morgannwg. Cafodd pentref y Barri a’r ardaloedd arfordirol gwledig o’i gwmpas, lonydd tan ail hanner y ganrif. Prynwyd yr ystâd gan deulu Romilly a’r teulu hwnnw oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r ardal – ond pentref oedd y Barri o hyd ym 1860 ac roedd Ynys y Barri yn enwog am ei chwningod! Roedd pethau ar fin newid, fodd bynnag, i bentref y Barri a phentref cyfagos Tregatwg. Roedd rhwystredigaeth ymhlith perchnogion y gweithfeydd glo oherwydd yr oedi wrth allforio trwy ddociau Caerdydd a daeth nifer at ei gilydd – gan gynnwys David Davies – i greu’r Barry Railway Company a fyddai’n gosod rheilffordd newydd o’r cymnoedd ac yn agor dociau yn y Barri. Dechreuodd y gwaith ym 1884 ac agorwyd y doc cyntaf ym 1889. Daeth dau ddoc arall i ddilyn ynghyd ag adnoddau docio sylweddol.
Daeth y rheilffordd newydd â miliwn o dunelli o lo o’r cymoedd i’r dociau newydd yn y flwyddyn gyntaf. Erbyn 1903, roedd y ffigwr wedi codi i naw miliwn o dunelli. Roedd y porthladd dan ei sang ac roedd beilîau trin llongau prysur, storfeydd oer, melinau blawd a ffatri rhew. Erbyn 1913, y Barri oedd y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd.
Daeth rhesi o dai teras i lenwi’r llethrau y tu ôl i’r dociau a chyda datblygiadau yn Nhregatwg hefyd, datblygodd y Barri yn dref sylweddol. Codwyd rhai adeiladau pwysig yn ystod y cyfnod hwn gan gynnwys swyddfeydd trawiadol y doc a Neuadd y Dref a adnewyddwyd yn ddiweddar. Wrth i’r dociau ymdawelu, defnyddiwyd y rheilffordd i droi Ynys y Barri yn gyrchfan ar gyfer ymwelwyr – cyrchfan sydd yn dal i fod yn boblogaidd heddiw. Daeth trenau arbennig â miloedd o bobl o’r cymoedd. O bier y rheilffordd byddai cychod padl yn cludo teithwyr ar hyd yr arfordir ac ar draws Môr Hafren. Roedd y Barri yn dref bwysig ac ym 1939, codwyd y dref yn fwrdeisdref annibynnol. Newidiodd ei sefyllfa yn ystod ar ad-drefnu ym 1974 a 1994 ond mae bodolaeth Cyngor y Dref yn dyst i statws arbennig y Barri o hyd.