Masnach a Diwydiant

Mae’r archfarchnadoedd mawr - Waitrose, Morrison’s, Lidl, Tesco a’r Co-op o fewn cyrraedd hawdd i bobl y Barri. Mae dwy brif ganolfan siopa – Ffordd Holton a Broad Street/Y Stryd Fawr ac mae gan y ddwy ganolfan gymdeithasau masnach bywiog a phrofiadol .  Mae gan y Siambr Masnach aelodau ym mhob rhan o’r dref.
 
Mae gan y banciau mawr a’r rhan fwyaf o’r cymdeithasau adeiladu mawr ganghennau yn y Barri – y rhan fwyaf ar Ffordd Holton. Ceir hefyd y gwasanaethau ariannol a manwerthu arferol y byddai rhywun yn eu disgwyl mewn tref o’r maint hwn.
 
Gyda chymorth y porthladd, mae’r Barri wedi datblygu yn dref sy’n darparu gwasanaethau a nwyddau ar gyfer Bro Morgannwg. Mae’r dociau yn gallu darparu ar gyfer llongau sy’n pwyso hyd at 23,000 tunnell allan o’r dŵr ac mae ffordd dda a system rheilffordd dda yn arwain atynt. Mae’r llongau hyn yn cludo cemegau hylifol, metalau, coed, a nwyddau sych i’r dociau ac allan i Fôr Hafren.
 
Y prif ddiwydiannau yn y Barri ydy’r diwydiannau cemegol. Un cynhyrchydd amlwg ydy Dow Corning a aeth ati rai blynyddoedd yn ôl i godi’r gynhyrchfan silicon fwyaf yn Ewrop yma. Hefyd mae Ineos Chlor, Zeon a Cabot Carbon.  Mae cyflogwyr allweddol eraill yn y Barri - Dunn Brothers, Scott Timber, Evans & Reid, Western Welding and Engineering, JT Evans, Harris Pye, Jewson's, Rank Hovis, Vopak ac Associated British Ports.
 
Mae’r ardal i’r gogledd o Ddoc Rhif 1 yn gartref i Woodham’s Scrap Yard, sydd yn enwog trwy Brydain fel ‘Mynwent y Stêm’. Mae’n atyniad pwysig i’r rhai sydd yn ymhyfrydu ym myd y stêm ac i gadwraethwyr diwydiannol. Mae’r trenau eu hunain wedi hen fynd.
 
Y drws nesaf i’r dociau mae Ystâd Masnachu’r Iwerydd ( Atlantic Trading Estate), sy’n sefyll ar safle 87 acer a fu unwaith yn ganolfan filwrol. Ar ochr ogleddol Ffordd Caerdydd mae Ystâd Masnachu Tŷ Verlon a sefydlwyd gan Asiantaeth Datblygu Cymru. Heb fod yn bell o fan’na, mae Ystâd Masnachu Palmerston yn cynnig llety ar gyfer amrywiaeth o fusnesau.
 
Er gwaethaf y lleihad yn y busnes trwy’r dociau dros y blynyddoedd mae amrywiaeth syfdanol o hyd o weithgarwch diwydiannol a masnachol yn y Barri. Mae tir ar gael ar gyfer busnesau newydd a busnesau sydd am ehangu. Mae’r system ffyrdd a rheilffyrdd a’r ffaith bod maes awyr rhanbarthol gerllaw hefyd yn ffactorau pwysig.
 
Mae Rhaglen Ailfywiogi’r Glannau (Waterfront Regeneration Programme) ar waith ar dir a fu unwaith yn eiddo i Associated British Ports. Nod y prosiect hwn ydy codi 1,000 o gartrefi newydd, creu 2,000 o swyddi a sicrhau datlblygiadau manwerthu, chwaraeon a hamdden. Mae llawer o’r tai eisoes wedi’u codi.
 
Mae’n bosib mai’r Rhaglen Ailfywiogi hon fydd yr allwedd i lwyddiant y dref yn y dyfodol gan y bydd yn ffocws penigamp ar gyfer buddsoddiadau newydd. 





HEAVY RAIN SHOWER
Max: 17°C Min: 13°C

             
© copyright Barry Town Council. 2009 e-commerce websites by Silicon Edge