O Gwmpas Y Dref

Mae llawer o atyniadau hardd a diddorol y tu allan i'r Barri a rhestrir rhai ohonynt yma.
I'r dwyrain, ar hyd yr arfordir, rhwng y Barri a Phenarth mae pentref hyfryd Sili gyda'i draeth tawel sy'n syllu drosodd i gyfeiriad Ynys Sili o'i lecyn hanner cuddiedig. Mae modd cerdded drosodd i'r ynys pan fo'r llanw yn isel. Yn agos at Sili mae traeth Swanbridge sy'n boblogaidd â nofwyr ac ychydig i'r gogledd o Swanbridge mae Parc Cosmeston a fu unwaith yn chwarel galch. Mae'r parc erbyn hyn yn atyniad penigamp â llyn sy'n denu adar dwˆr, coedwigoedd a llwybrau natur. Yn y parc hwn, cewch brofi bywyd ym Mhentref Canoloesol Cosmeston - pentref 'ffug' ar thema'r bedwaredd ganrif ar ddeg a godwyd ar safle'r hen bentref gwreiddiol. Ceir adeiladau, gerddi, bridiau prin ac amgueddfa fechan sy'n hynod ddiddorol. Trefnir teithiau dan arweiniad 'pentrefwyr' mewn gwisgoedd dilys ar gyfer y cyfnod.
Yn ôl trwy'r Barri ac i'r gorllewin, y tu hwnt i Faes Awyr Caerdydd yn y Rhws, mae pentref Llanilltyd Fawr sydd ond yn filltir o'r môr ac o draeth sy'n boblogaidd gyda syrffwyr.
I'r gorllewin eto am ddwy filltir a dewch i Sain Dunwyd, pentref hardd hynafol sy'n gartref i gastell mawreddog Sain Dunwyd. Y castell hwn - plasdy barwnaidd ysblennydd - a ddefnyddir gan y 'United World College of the Atlantic' - Coleg Iwerydd. Trefnir teithiau o gwmpas y castell o ganol i ddiwedd Awst.
Os ewch ymhellach i'r gorllewin dewch i Bentir yr As Fach (Nash Point) - lle hardd â golygfeydd gwych dros y môr. Mae dau oleudy yma sydd erbyn hyn yn cynnig llety i ymwelwyr. Mae'r arfordir yn y rhan hon o Fro Morgannwg wedi ennill statws 'Arfordir Treftadaethol' gan Gomisiwn Cefn Gwlad Cymru ac mae gwaith ar waith i wella'r llwybrau cerdded lleol. Ceir canolfan dreftadaeth ger Southerndown sy'n cynnig ystod eang o daflenni gwybodaeth a dehongli.
Yn ôl i'r Barri ac i'r gogledd y tro hwn. Dewch ar draws y Ganolfan Heboga a Gerddi'r Dyffryn. Mae Canolfan Heboga Cymru yn gartref i adar ysglyfaethus o bedwar ban y byd a threfnir cyfleon i weld yr adar yn hedfan bob dydd. Gerddi Edwardaidd sydd wedi'u cofrestru yn y dosbarth cyntaf ydy Gerddi'r Dyffryn a cheir lawntydd ffurfiol, ffynhonnau a phyllau, gwelyau blodau tymhorol a pharthau caeedig a amgylchynir gan gloddiau o goed ywen a muriau. Mae'r 'arboretum' sylweddol yn cynnwys coed o dros y byd i gyd gan gynnwys yr 'acer griseum' gwreiddiol o gasgliad Chinese Wilson. Yr hyn o bryd mae rhannau o'r gerddi hyn yn cael eu hadnewyddu trwy brosiect a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae'r gerddi ar agor o 10.00 a.m. a 6.00 p.m. o Fawrth i Hydref ac o 11.00 a.m. - 4.00 p.m. o Dachwedd i Chwefror.
Yn agos at ganol Bro Morgannwg mae tref farchnad y Bontfaen - hen dref sy'n glytwaith o dai o gyfnodau cynharach, tafarnau, siopau ac adeiladau hanesyddol eraill. Yng ngerddi'r Hen Neuadd mae'r Ardd Ffiseg sy'n taflu goleuni hynod ddiddorol ar rinweddau meddyginaethol planhigion. Heb fod yn bell o'r Bontfaen, yng nghanol 20 erw dir gwledig hyfryd mae Gwinllan Llannerch. Yn nes at Ben-y-bont ar Ogwr, mae Priordy Ewenni a sefydlwyd gan fynachod Urdd Sant Benedict yn y ddeuddegfed ganrif ac a ehangwyd ganrif ar ôl hynny. Mae'r priordy ar agor i'r cyhoedd ac mae'n werth galw heibio.
Yn ôl trwy'r Barri eto ac i'r gogledd-ddwyrain. Yma, heb fod yn bell o Gaerdydd, mae Sain Ffagan - Amgueddfa Werin Cymru. Mae'r amgueddfa hynod ddiddorol hon a agorwyd ym 1948 yn sefyll mewn 98 erw o erddi, coedwigoedd a thir parc ac mae'n cynnwys adeiladau 'go iawn' o wahanol gyfnodau yn hanes Cymru sy wedi'u symud fesul carreg i'r amgueddfa. Mae'n rhoi darlun gwych o hanes domestig pobl Cymru ar hyd yr oesoedd.
Mae gan Gaerdydd, prifddinas ifancaf Ewrop, lawer i'w gynnig i dwristiaid. Yn ei chanol, y drws nesaf i'r prif barthau siopau, mae Castell Caerdydd - ac mae castell arall i'r gogledd o'r ddinas - Castell Coch. Mae'r ddau gastell ar agor i'r cyhoedd bob dydd ac maent yn werth eu gweld. Hefyd yng Nghaerdydd mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Eglwys Gadeiriol Llandaf, eglwys hynafol Ioan Sant, Stadiwm y Mileniwm, Neuadd Dewi Sant, y Theatr Newydd, Arena Rhyngwladol Caerdydd ac ardal Bae Caerdydd sy'n gartref i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.
I orffen, beth am fentro ar gwch i ganol Môr Hafren ar Stêmar y Waverley neu ar deithlong y Balmoral sydd ill dwy yn hwylio o Bier Penarth yn y gwanwyn a'r haf. Mae modd mynd allan am ddiwrnod llawn neu am brynhawn neu noson i Wlad yr Haf, Dyfnaint, ac ynysoedd Elen (Lundy), Rhonech ac Echni. Mae modd hefyd i chi fynd draw i Minehead i weld Rheilffordd Stêm Gorllewin Gwlad yr Haf ac i hwylio ar hyd Afon Avon i Fryste trwy fwlch dramatig Clifton.