Y Parc Sglefrio

Yn 2007 gwelwyd agor yn swyddogol un o’r cyfleusterau pwysicaf ar gyfer ieuenctid yr ardal – a hynny ar dir ger y Cnap (Cold Knap). Cynlluniwyd y parc sglefrio gogoneddus hwn gan Mrs Gaynor Taylor a hi hefyd aeth yn gyfrifol am reoli’r prosiect hwn. Mrs Taylor oedd mam y cyn-bencampwr sglefrio ‘in-line’ Ewropeaidd, Richard Taylor a laddwyd mewn damwain drychinebus annisgwyl ger ei gartref yn 2004. Roedd yn 23 oed. Mae’r parc sglefrio yn deyrnged haeddiannol a pharhaol i ddyn ifanc dawnus ac yn dyst i gariad ei rieni a’i gyn-gyfoedion trwy gydol y Deyrnas Unedig.